Dieithriaid, celf Gristnogol, yr enaid, a chrefydd ymhlyg yn Herio Materion Crefyddol

Dieithriaid, celf Gristnogol, yr enaid, a chrefydd ymhlyg yw rhai o'r pynciau a drafodir yn y cyfnodolyn, Herio Materion Crefyddol (Rhifyn 16). Yn ddiweddar, mae Canolfan San Silyn wedi cyfieithu a chyhoeddi fersiwn Gymraeg y rhifyn hwn (cyhoeddwyd y fersiwn Saesneg yng Ngwanwyn 2020).

Mae crynodeb o'r erthyglau isod. Gallwch lawrlwytho fersiynau Cymraeg a Saesneg yma.

Dieithriaid: Eglwyseg ac 1 Pedr gan Dr John Holdsworth

Yn 1981 gwelwyd dechreuad cyfeiriad newydd yn astudiaeth 1 Pedr, a oedd fel pe wedi cyrraedd lle amhosibl cyn hynny. Mae astudiaethau cymdeithasol gan Elliott a Goppelt wedi mapio ffordd newydd ymlaen sydd wedi helpu i dynnu sylw at ddiwinyddiaeth 1 Pedr, ac yn arbennig ei eglwyseg, ac sydd wedi helpu i ail-ddiffinio astudiaeth eglwysegol. Cynigiodd hyn bosibilrwydd deongliadol newydd hefyd.

Y Geni a’r Croeshoeliad mewn Celf Gristnogol: Gweld, Dehongli ac Addoli gan Dr Bridget Nichols

Mae’r erthygl hon yn trafod rôl celf Gristnogol mewn ffurfio hunaniaeth Gristnogol a phatrymau defosiwn, gan ganolbwyntio ar enedigaeth Crist a’i groeshoeliad.

Y Meddwl, yr Ymennydd a’r Enaid sy’n Uno gan Dr Mark Graves

Mae’r erthygl yn rhoi trosolwg o ddatblygiad hanesyddol y cysyniad o’r enaid mewn athroniaeth a diwylliant Gorllewinol, ac yng nghyd-destun safbwyntiau gwyddonol cyfoes.

Crefydd Ymhlyg: Ymagwedd Newydd at Astudio Crefydd? gan Dr Francis Stewart

Mae’r erthygl yn dadlau mai un newid a wnaed i astudiaeth crefydd drwy ddatblygiad y thesis seciwlareiddio, a’i fethiant yn y pen draw, oedd ymagwedd newydd a oedd yn ceisio ateb y cwestiwn, ‘Beth yw crefydd seciwlar?’ Yr ymagwedd hon oedd Crefydd Ymhlyg, y mae ei tharddiad, ei natur a’i harwyddocâd yn cael ei thrafod yma.

Dirgelwch Anhraethol Duw? gan yr Athro Jeff Astley

Mae’r erthygl yn ystyried cysyniadau am anhraetholdeb, trosgynoldeb a dirgelwch Duw, gan gyfeirio’n arbennig at y profiad crefyddol ac iaith grefyddol.

Gwnaed ar Ddelw Duw: Profiad Merch ag Anabledd yn Nigeria gan Jessie Fubara-Manuel and Elijah Obinna

Mae’r erthygl hon yn trafod y datganiad Cristnogol fod dynoliaeth (gyda neb heb anableddau) wedi’i gwneud ar ddelw Duw. I bobl anabl mae’r datganiad hwn yn gysur a gallai fod yn sail i siwrne dorfol cymdeithas tuag at gydraddoldeb, urddas a chyfiawnder i bob unigolyn.

Agored Cymru Dyfarniad Lefel 2 mewn Archwilio Bydolygon

Mae gan Agored Cymru ddyfarniad Lefel 2 newydd, sy’n canolbwyntio ar archwilio bydolygon crefyddol ac anghrefyddol (Bydd y dyfarniad Lefel 1 ar gael cyn hir.)

Lluniwyd y gyfres newydd hon o gymwysterau o’r enw Archwilio Bydolygon ar gyfer dysgwyr 14-16, a’i nod yw helpu i ddatblygu’r sgiliau, yr wybodaeth a’r profiadau sy’n bwysig i bobl ifanc allu byw a gweithio’n llwyddiannus mewn cymdeithas amrywiol sy’n newid yn gyflym. Gall Archwilio Bydolygon gefnogi dull hyblyg o addysg a dysgu Addysg Grefyddol (a Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg) statudol, pan nad yw’r dysgwyr wedi dewis dilyn TGAU Astudiaethau Crefyddol. Fe’i bwriadwyd i fod yn dra gwahanol i’r cymwysterau TGAU, na fydd yn cael eu heffeithio gan y datblygiad hwn.

Mae’r unedau Lefel 2 sydd ar gael erbyn hyn yn cynnwys:

  • Deall Bydolwg
  • Archwilio fy Mydolwg
  • Cwestiynau Mawr
  • Moeseg Feddygol
  • Moeseg Chwaraeon a Hamdden
  • Bydolygon yn fy Nghymuned

Ochr yn ochr â chydweithwyr o awdurdodau lleol Wrecsam ac Abertawe, roedd Canolfan San Silyn yn rhan o gychwyn a chreu’r gyfres newydd hon o gymwysterau er mwyn helpu i gynyddu’r dewisiadau sydd ar gael i ysgolion Wrecsam wrth gyflwyno Addysg Grefyddol (a Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg) statudol.

Ceir gwybodaeth bellach am y cymhwyser hwn yma.

Newyddion Ewropeaidd i Eglwysi ac Ysgolion

Efallai y bydd gan y rheiny ohonoch sy’n gweithio ym maes yr Eglwys a’r Ysgol ddiddordeb mewn darllen newyddlen Gorffennaf 2021 gan y Comisiwn Rhyng-Ewropeaidd ar yr Eglwys a’r Ysgol (ICCS) a’r Gymdeithas Addysg Grefyddol Rynglwadol (IV).

Mae’r erthyglau’n cynnwys y newyddion diweddaraf gan:

  • ICCS ac IV;
  • Grŵp Cydlynu Crefydd mewn Addysg yn Ewrop (CoGREE) a’i aelod-fudiadau;
  • Cynhadledd yr Eglwysi Ewropeaidd (CEC) a Chymundeb yr Eglwysi Protestannaidd yn Ewrop (CPCE).

Wedi’i chyhoeddi ar wefan ICCS* gellir gweld y newyddlen yma.

* Rhwydwaith yw’r Comisiwn Rhyng-Ewropeaidd ar yr Eglwys a’r Ysgol (ICCS) a grëwyd yn 1958. Ei nod yw darparu fframwaith ar gyfer cydweithredu mewn monitro a datblygu materion eglwysi ac ysgolion yn Ewrop. Mae’n dwyn ynghyd gynrychiolwyr ac arbenigwyr o ymchwil, ymarfer a pholisi sy’n gweithio ar grefydd ac addysg.

Archwilio Cynefin: Canolfan San Silyn yn cynnig cyfle dysgu proffesiynol

Ar 7 Gorffennaf 2021, cyfarfu grŵp o athrawon arbenigol AG ac arweinwyr o Wrecsam a Sir y Fflint i archwilio cynefin yn y cwricwlwm newydd i Gymru. Nodau’r sesiwn oedd:

• helpu i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd;
• dechrau amlygu a dyfnhau’n gwybodaeth a’n profiad o gynefin;
• annog creadigrwydd a hyder wrth feddwl am gynefin wrth gynllunio.

Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn rhoi pwyslais mawr ar gynefin, sy’n bwysig ym Maes y Dyniaethau ac sy’n cael ei adnabod fel cysyniad pwnc yn CGM. Roedd y sesiwn yn gyfle i’r cyfranogwyr gymryd rhan mewn ymarfer myfyriol seiliedig ar ymchwil i agor eu meddwl am gynefin. Fe dderbynion nhw adnoddau a thystysgrif cyfranogiad gan Ganolfan San Silyn a’i sefydliadau partner, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Phrifysgol Esgob Grosseteste.

Mae’r Ganolfan yn edrych ymlaen at rannu mwy o adnoddau a dysgu proffesiynol gydag ymarferwyr yn y flwyddyn academaidd nesaf.

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ganllawiau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM): Ymateb CYSAG Wrecsam

Diolch i bawb ohonoch a rannodd eich barn gyda ni am am ganllawiau drafft ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM). Mae’ch llais yn bwysig ac mae Canolfan San Silyn wedi ymrwymo i rannu profiadau a safbwyntiau Wrecsam ar lefelau lleol a chenedlaethol.

Efallai yr hoffech ddarllen ymateb CYSAG Wrecsam i'r ymgynghoriad yma.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'ch ymateb eich hun i'r ymgynghoriad yw 16 Gorffennaf 2021.

Herio Materion Crefyddol Rhifyn 18 (fersiwn Gymraeg) newydd ei gyhoeddi

Mae Rhifyn 18 (fersiwn Gymraeg) o’r cyfnodolyn Herio Materion Crefyddol (Challenging Religious Issues) sy’n cefnogi dysgwyr ac athrawon UG / Safon Uwch newydd ei gyhoeddi.

Mae'r erthyglau Cymraeg yn cynnwys:

  • gweinidogaeth gyhoeddus Iesu;
  • beirniadaeth Hume o’r ddadl o (i) ddyluniad;
  • effaith Covid-19 ar Gristnogaeth yn y DU.

Ewch i’n tudalen 16+ i gael mynediad am ddim i rifyn diweddaraf y cylchgrawn (a’r holl ôl-rifynnau).

Rhifyn newydd o gyfnodolyn Astudiaethau Crefyddol Safon Uwch ar gael: Herio Materion Crefyddol

Mae Rhifyn 18 o’r cyfnodolyn lefel A mynediad agored, Herio Materion Crefyddol ar gael bellach i’w lawrlwytho o wefan Canolfan San Silyn.

Mae’r erthyglau’n trafod:

  • gweinidogaeth gyhoeddus Iesu;
  • beirniadaeth Hume o’r ddadl o (i) ddyluniad;
  • effaith Covid-19 ar Gristnogaeth yn y DU.

Wedi’i sefydlu yn 2013, nod Herio Materion Crefyddol yw cefnogi athrawon a myfyrwyr sy’n dilyn Astudiaethau Crefyddol Safon Uwch, gan ddod ag ysgolheictod ac ymchwil diweddar a perthnasol o’r Brifysgol i ystafell ddosbarth lefel A. Mae’r cyfnodolyn o ddiddordeb hefyd i unrhyw un sy’n dymuno ehangu neu ddyfnhau eu gwybodaeth o’r pwnc yn gyffredinol.

Bydd rhifyn Cymraeg Herio Materion Crefyddol yn cael ei gyhoeddi ar-lein yn ddiweddarach y tymor hwn.

Gallwch weld rhifyn diweddaraf y cylchgrawn (a’r holl ôl-rifynnau) yma.

Pam fod AG (CGM) yn berthnasol drwy gydol ein bywydau: gweminar newydd i ddysgwyr 14- i 16- mlwydd oed

Core RE webinar

Mae’n bleser gan Ganolfan San Silyn gynnig gweminar newydd sy’n ysgogi meddwl i athrawon a dysgwyr a luniwyd i hybu trafodaeth a diddordeb mewn gwersi AG (CGM) statudol. Crëwyd y gweminar i Ganolfan San Silyn gan Dr Greg Baker ac mae’n rhan o brosiect adnoddau ehangach i gefnogi AG (CGM) ac Astudiaethau Crefyddol ar gamau allweddol 4 a 5.

Mae’r gweminar diweddaraf hwn a recordiwyd yn barod yn dangos sut gall dysgu am grefydd, credoau a gwerthoedd ac amryw o ddamcaniaethau moesegol fod yn wirioneddol werthfawr i ddysgwyr drwy gydol eu bywydau, pa bynnag lwybr maent yn ei ddilyn. Felly, mae gwersi AG (a fydd yn y dyfodol yn cael eu galw’n wersi Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg) nid yn unig yn cael eu hyrwyddo fel rhywbeth hanfodol, ond diddorol a gwerth chweil hefyd.

Gallwch wylio darn 8 munud o’r adnodd hwn ar ein tudalen gweminarGall athrawon Wrecsam cysylltu â ni i gael y ddolen i’r fideo llawn (28 munud).

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ganllawiau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg - ar agor

Dydd Gwener, 21 Mai 2021, agorodd ymgynghoriad cyhoeddus Llywodraeth Cymru ar ganllawiau drafft Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM). Caiff pawb sydd â diddordeb mewn Addysg Grefyddol (a ailenwyd yn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg) eu hannog i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a chyflwyno’u hymatebion.

Mae’r ymgynghoriad yn rhan bwysig o gamau olaf proses ddatblygu ar y cyd a fwriedir i greu cefnogaeth ychwanegol i ysgolion, lleoliadau a CYSAGau o ran Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

Mae Canolfan San Silyn wedi cynhyrchu fideo 20 munud byr sy’n crynhoi’r hyn sydd yn y Canllawiau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg a pham ei fod yno. Gallwch weld y fideo yma. Gallwch gael y ddolen i’r ymgynghoriad yma.

Os ydych yn ymarferydd sy’n gweithio yn Wrecsam ac yr hoffech rannu’ch barn yn uniongyrchol gyda San Silyn, cysylltwch â ni ac fe’ch helpwn i gael eich llais wedi’i glywed.

Y dyddiad cau i ymateb i’r ymgynghoriad yw: 16 Gorffennaf, 2021.

Dathlu cyfieithwyr y Beibl Cymraeg: gwasanaeth arbennig i ysgolion

St Asaph Translators Service for Schools

Mae Esgobaeth Llanelwy wedi rhyddhau gwasanaeth dwyieithog arbennig i ysgolion i ddathlu 400 mlwyddiant cyfieithu’r Beibl i Gymraeg, camp a gafodd effaith mor arwyddocaol ar gymdeithas a diwylliant yng Nghymru.

Mae’r ffilm yn gwneud nifer o gysylltiadau naturiol â mannau lleol (cynefin). Daeth saith o’r wyth cyfieithydd o Esgobaeth Llanelwy, a gwnaeth dysgwyr o ysgolion eglwys lleol gyfraniadau allweddol i’r ffilm, ynghyd ag Esgob Gregory a’r Gwir Barchedig Nigel Williams, ymhlith eraill.

Er ei fod wedi cael ei strwythuro fel ‘gwasanaeth’ (36 munud o hyd), mae rhaniadau defnyddiol sy’n galluogi ysgolion i gynnwys agweddau penodol o’r ffilm yn eu gweithgareddau addysgu a dysgu ehangach i AG (CGM) yn y Dyniaethau.

Gallwch weld y ffilm yma.

Cymraeg